Nôl i'r dudalen hafan

ffontiau celtaidd

in English


Cewch gyflwyno'ch gwaith ysgrifenedig yn ddeniadol gyda ffontiau celtaidd MEU Cymru. Pwy fyddai'n dychmygu y bydda'r cyfrifiadur yn cynnig y cyfle i bawb creu tudalennau ysgrifenedig golywiedig hardd ar y sgrin ac ar bapur? Mewn ychydig o funudau, gallwch liwio'r llythrennau a'u lleoli gan becyn graffeg i ddynwared gwaith oriau gan yr hen sgrifellwyr.

Mae'r pecyn Ffontiau Celtaidd yn cynnwys dwy ffont:

gwalia

Ffont geltaidd yw Gwalia, sydd yn gyfaddawd rhwng yr ysgrifen sydd yn yr hen lyfrau fel ysgrythyrau Lindisfarne a deallusrwydd ee. mae'r llythyren 'g' yn symlach na'r hen 'g' sydd yn nifer o lawysgrifau. Daw enw'r ffont wrth gwrs o'r hen enw Lladin am Gymru.

pysgod ac adar

Mae'r llythrennau golywiedig sydd yn deillio o waith celf y celtiaid yn cyfrannu llawer at harddwch yr hen ysgrythurau. Cododd MEU Cymru yn y syniad gan seilio llythrennau'r wyddor ar gyfuniadau o ddelweddau pysgod ac adar, a felly dyna'r enw sydd ar y ffont.

Cliciwch yma i weld sut i osod ffontiau newydd ar eich cyfrifiadur.

Mae'r tabl isod yn cyflwyno casgliad o lythrennau y ddwy ffont. Nodwch y gallwch ddewis pa liw bynnag y mynoch ar eich cyfrifiadur am y ffont, a hefyd yn achos Pysgod as Adar, gallwch lenwi y tu fewn i'r llythrennau ym mha fodd y mynoch.

Gwalia

Gwalia

pysgod ac adar

Pysgod


Ffontiau Celtaidd  ar gyfer Windows neu Apple Macintosh

Ffontiau celtaidd


Pecyn yn cynnwys:
Ffont Celtaidd Gwalia
Ffont priflythrennau Celtaidd Pysgod ac Adar

Pris: £20.00
(yn cynnwys ac  AcenSyml 2.1)

 


E-bostiwch at  e-bost@meucymru.co.uk

Archebwch drwy e-bost neu alwad ffôn, neu anfonwch siec neu archeb swyddogol at:
MEU Cymru, 57 Beulah Road, Rhiwbina, CAERDYDD CF14 6LU
Ffôn/Ffacs: 029 20 628300